Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 14 Chwefror 2017
Amser: 09.06 -
10.07
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3945
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 317KB) Gweld fel HTML (118KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Roedd Janet Finch-Saunders wedi ymddiheuro am ei habsenoldeb.
Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Cyflwynodd Fil arfaethedig i falot yr Aelodau ar yr un pwnc â’r ddeiseb.
Datganodd Gareth Bennett y budd perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Cyflwynodd Fil arfaethedig i falot yr Aelodau ar yr un pwnc â’r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:
· y Pwyllgor Cymunedau Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol i ofyn a ydynt yn bwriadu ymgymryd â gwaith ar y mater hwn; ac
· Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ofyn am ragor o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer penderfynu a oes angen deddfu ar y mater.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:
· aros i gael barn y deisebydd am ymateb y Gweinidog.
· gofyn am wybodaeth gan y Gwasanaeth Ymchwil am gymarebau disgyblion / athrawon yn Sgandinafia.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at elusennau sy'n cynorthwyo pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i ofyn am eu barn am y materion a godwyd yn y ddeiseb a'r wybodaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:
· aros am farn y deisebydd am ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith; ac
· anfon y ddeiseb at Ddefnyddwyr Bysiau Cymru er gwybodaeth.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:
· ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i holi ym mha ardaloedd awdurdod lleol y mae’r cynllun Cymraeg i Blant ar waith ar hyn o bryd, ac i gael rhagor o fanylion
am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu elfen genedlaethol Twf; ac
· aros am farn y deisebwyr.
Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ofyn am atebion i’r cwestiynau penodol a godwyd gan y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn iddynt ymateb i’r pwyntiau a godwyd yn y ddeiseb ac esbonio sut y maent yn ystyried buddiannau sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, a’r defnydd amaethyddol o dir, wrth fynd ati i ddynodi Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:
· Anfon cais y deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith a gofyn iddo a yw’n barod i ystyried galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r digwyddiadau’n ymwneud â datblygu’r Gyfnewidfa Lo; ac
· ysgrifennu at Arweinydd Cyngor Caerdydd i ofyn iddo ymateb i'r sylwadau a gafwyd ynglŷn â chywirdeb ei ohebiaeth â'r Pwyllgor.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:
· y deisebydd yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted ag y bydd yn cael ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch ariannu arwyddion newydd; a
· Chyngor Sir Powys i holi am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â chynnal a chadw cofeb Tywysog Llywelyn a bwrw ymlaen â Chynllun Gweithredu Lloyd Brown 2013.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd i gau'r ddeiseb, ar gais y deisebydd, gan ddiolch iddo am ei gyfraniad at y broses ddeisebau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor unwaith y bydd y gwaith blaenoriaethu wedi’i gwblhau yng nghyswllt y rhestr o orsafoedd newydd o dan y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith:
· i ofyn a fyddai'n fodlon ymgynghori â'r deisebydd a thrigolion eraill Park View Terrace ynghylch y modd y caiff y tir ei ddefnyddio yn y dyfodol wedi i’r trafodaethau presennol â’r awdurdod lleol ddod i ben, a chyn i’r broses o werthu’r tir ddechrau;
· i holi a fydd gan y rhai sy’n defnyddio’r lonydd a’r tir i barcio ar hyn o bryd hawl tramwy gan eu bod yn defnyddio’r tir ers cryn amser.
· gofyn am eglurhad ynghylch yr anghysondebau yn yr ohebiaeth flaenorol y tynnodd y deisebydd sylw atynt.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant a’r deisebydd a chytunodd i:
· aros i Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi penderfyniadau’n dilyn ymchwiliad i’r diwydiant dan sylw, cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach; ac
· archwilio a fyddai'n bosibl cwrdd â'r deisebwyr yn anffurfiol i drafod eu deiseb.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod cryn amser wedi mynd heibio ers i’r deisebydd gysylltu ddiwethaf a'r ffaith bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymryd camau i sefydlu senedd ieuenctid Cymru ar hyn o bryd.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb o ystyried bod y gyllideb ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl wedi’i diogelu ac na lwyddwyd i gysylltu â'r deisebydd.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod cryn amser wedi mynd heibio ers i’r deisebydd gysylltu ddiwethaf.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Iechyd Cymunedol i ofyn am ei farn am yr ohebiaeth.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Diabetes UK Cymru, y Pwyllgor Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a’r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:
· Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ofyn iddo ystyried cyfarfod â'r deisebwyr; a
· phob Bwrdd Iechyd Lleol i ofyn am ragor o wybodaeth am eu trefniadau ar gyfer rhoi diagnosis ac atgyfeirio cleifion.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried y cytundeb cyffredinol rhwng Cadwch Gymru'n Daclus a Llywodraeth Cymru ynghylch rôl Wildlife Warriors cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb gan ddiolch i’r deisebwyr am gyfrannu at y broses ddeisebau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn dilyn ei datganiad ar 13 Chwefror, i ofyn iddi egluro a fydd yr ymgynghoriad arfaethedig yn cynnwys yr opsiwn i sefydlu hawl mynediad cyhoeddus statudol i dir a dŵr mewndirol, ac i holi am yr amserlen gysylltiedig.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod cryn amser wedi mynd heibio ers i'r deisebwyr gysylltu ddiwethaf.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg a chytunodd i aros am ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad a'r rheoliadau drafft y bydd yn eu cyflwyno, gan ystyried y ddeiseb eto bryd hynny.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i oofyn am ei hymateb i bryderon a chwestiynau’r deisebwyr, ac i ofyn a yw'n fwriad gan Lywodraeth Cymru i barhau i roi cymhorthdal i helpu i dalu ffioedd cofrestru staff ysgol ar gyflog isel.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 31 Ionawr gyda Llysgenhadon Whizz-Kidz a chytunodd i gymryd tystiolaeth lafar ychwanegol gan y canlynol:
· Gweithredwyr rheilffyrdd;
· Gweithredwyr bysiau;
· Gwasanaethau tacsi;
· Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; ac
· Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith